...

Gwasanaeth MOT Iechyd Meddwl

Bob dydd Llun a dydd Mawrth: Abergele
Bob dydd Gwener: Llandudno
29 Medi a 13 Hydref: TAPE, Hen Golwyn

Archebwch eich prawf MOT

👉 Ar y dde (cyfrifiadur)

⬇️ Ar waelod y dudalen (ffôn symudol)

Beth yw MOT Iechyd Meddwl?

Mae’r MOT Iechyd Meddwl yn ddigon tebyg i apwyntiad deintyddol, neu MOT car, ond y tro hwn mae’n gyfle i gael sgwrs un i un am eich llesiant. Mae’n ofod diogel i drafod eich teimladau ac unrhyw beth sy’n eich poeni.  Byddwch chi’n cael syniadau a chefnogaeth ac yn cael eich cyfeirio at offer ac adnoddau.

  • Dim rhestr aros
  • Apwyntiadau Hyblyg
  • Cefnogaeth am ddim
  • Apwyntiadau ar gael o fewn 7 diwrnod i’w harchebu
  • Mae 100% o’r bobl sydd wedi cael MOT Iechyd Meddwl yn ei argymell i eraill.*
  • Dywedodd 79% o bobl eu bod yn teimlo’n fwy cadarnhaol ar ôl yr MOT*
  • Roedd 86% yn defnyddio gwasanaethau Mind Conwy am y tro cyntaf*

Nid yw’n brawf. Nid yw’n therapi. Does dim pwysau yn cael ei roi arnoch ac ni fydd diagnosis yn cael ei roi i chi. Mae’n ofod diogel ar eich cyfer chi.

(*Data o’r apwyntiadau MOT a gynhaliwyd ym mis Medi 2025)

Sut mae’r gwasanaeth MOT wedi helpu pobl eraill?

Rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth MOT Iechyd Meddwl

Os ydych chi’n teimlo’n iawn ond eisiau sgwrs, neu’n dechrau teimlo eich bod yn cael eich llethu, gall y gwasanaeth MOT Iechyd Meddwl wneud y canlynol:

  • Rhoi gofod diogel i chi drafod eich teimladau yn agored
  • Rhoi cyfle i chi oedi a chanolbwyntio arnoch chi eich hunain
  • Eich helpu chi i adnabod arwyddion cynnar o straen, gorweithio neu hwyliau isel
  • Rhoi cymorth cyfeillgar a chanllawiau anghlinigol ar yr hyn a allai helpu
  • Eich cyfeirio at wasanaethau lleol, offer a chymorth ychwanegol

Yn ystod y sesiwn, byddwn yn trafod materion pwysig fel cwsg, straen, cymhelliant, perthnasoedd, pwrpas, a llawer mwy – ac yn eich helpu chi i gymryd camau bach ac ystyrlon i’r cyfeiriad cywir.

Sut mae’n gweithio

  1. Archwiliad Llesiant

Sesiwn un i un anffurfiol gydag aelod hyfforddedig o’n tîm i drafod eich iechyd meddwl a’ch llesiant. Bydd y sesiwn yn para oddeutu awr.

  1. Sgwrs am eich Cryfderau

Byddwn yn gofyn i chi feddwl am y meysydd allweddol sy’n effeithio ar eich iechyd meddwl – gan gynnwys cwsg, iechyd corfforol, cysylltiad, eich defnydd o amser, perthnasoedd a llawer mwy.  Gyda’n gilydd, byddwn ni’n cydnabod eich cryfderau ac yn nodi ym mha feysydd y mae angen rhagor o gymorth arnoch.

  1. Cynllun Gweithredu wedi’i Deilwra ar eich cyfer chi

Byddwn ni’n creu cynllun gweithredu syml ar eich cyfer chi yn seiliedig ar ein sgwrs – gan ganolbwyntio ar eich cryfderau a’r hyn sy’n bwysig i chi.

  1. Cyfeirio a Chymorth

Pan fo angen, byddwn ni’n eich helpu i gysylltu â gwasanaethau lleol a grwpiau cymunedol ac yn rhoi adnoddau ymarferol i’ch helpu chi i symud ymlaen.

Pwy sy’n gallu defnyddio’r gwasanaeth?

Mae’r gwasanaeth MOT Iechyd Meddwl ar gael i unrhyw un dros 18 oed sy’n byw yn ardal Conwy.
Does dim angen i chi fod yn dioddef, a does dim angen atgyfeiriad arnoch chi.

Mae’n arbennig o ddefnyddiol os yw’r canlynol yn wir amdanoch chi:

  • Dydych chi “ddim yn teimlo fel chi eich hun”
  • Dydych chi ddim yn siŵr ble i ddechrau gyda’ch iechyd meddwl
  • Rydych chi eisiau cael cyfle i sgwrsio a myfyrio




Our Funders