Gwasanaeth MOT Iechyd Meddwl
Bob dydd Llun a dydd Mawrth: Abergele
Bob dydd Gwener: Llandudno
29 Medi a 13 Hydref: TAPE, Hen Golwyn
Archebwch eich prawf MOT
👉 Ar y dde (cyfrifiadur)
⬇️ Ar waelod y dudalen (ffôn symudol)
Beth yw MOT Iechyd Meddwl?
Mae’r MOT Iechyd Meddwl yn ddigon tebyg i apwyntiad deintyddol, neu MOT car, ond y tro hwn mae’n gyfle i gael sgwrs un i un am eich llesiant. Mae’n ofod diogel i drafod eich teimladau ac unrhyw beth sy’n eich poeni. Byddwch chi’n cael syniadau a chefnogaeth ac yn cael eich cyfeirio at offer ac adnoddau.
- Dim rhestr aros
- Apwyntiadau Hyblyg
- Cefnogaeth am ddim
- Apwyntiadau ar gael o fewn 7 diwrnod i’w harchebu
- Mae 100% o’r bobl sydd wedi cael MOT Iechyd Meddwl yn ei argymell i eraill.*
- Dywedodd 79% o bobl eu bod yn teimlo’n fwy cadarnhaol ar ôl yr MOT*
- Roedd 86% yn defnyddio gwasanaethau Mind Conwy am y tro cyntaf*
Nid yw’n brawf. Nid yw’n therapi. Does dim pwysau yn cael ei roi arnoch ac ni fydd diagnosis yn cael ei roi i chi. Mae’n ofod diogel ar eich cyfer chi.
(*Data o’r apwyntiadau MOT a gynhaliwyd ym mis Medi 2025)
Sut mae’r gwasanaeth MOT wedi helpu pobl eraill?
Rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth MOT Iechyd Meddwl
Os ydych chi’n teimlo’n iawn ond eisiau sgwrs, neu’n dechrau teimlo eich bod yn cael eich llethu, gall y gwasanaeth MOT Iechyd Meddwl wneud y canlynol:
- Rhoi gofod diogel i chi drafod eich teimladau yn agored
- Rhoi cyfle i chi oedi a chanolbwyntio arnoch chi eich hunain
- Eich helpu chi i adnabod arwyddion cynnar o straen, gorweithio neu hwyliau isel
- Rhoi cymorth cyfeillgar a chanllawiau anghlinigol ar yr hyn a allai helpu
- Eich cyfeirio at wasanaethau lleol, offer a chymorth ychwanegol
Yn ystod y sesiwn, byddwn yn trafod materion pwysig fel cwsg, straen, cymhelliant, perthnasoedd, pwrpas, a llawer mwy – ac yn eich helpu chi i gymryd camau bach ac ystyrlon i’r cyfeiriad cywir.
Sut mae’n gweithio
- Archwiliad Llesiant
Sesiwn un i un anffurfiol gydag aelod hyfforddedig o’n tîm i drafod eich iechyd meddwl a’ch llesiant. Bydd y sesiwn yn para oddeutu awr.
- Sgwrs am eich Cryfderau
Byddwn yn gofyn i chi feddwl am y meysydd allweddol sy’n effeithio ar eich iechyd meddwl – gan gynnwys cwsg, iechyd corfforol, cysylltiad, eich defnydd o amser, perthnasoedd a llawer mwy. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n cydnabod eich cryfderau ac yn nodi ym mha feysydd y mae angen rhagor o gymorth arnoch.
- Cynllun Gweithredu wedi’i Deilwra ar eich cyfer chi
Byddwn ni’n creu cynllun gweithredu syml ar eich cyfer chi yn seiliedig ar ein sgwrs – gan ganolbwyntio ar eich cryfderau a’r hyn sy’n bwysig i chi.
- Cyfeirio a Chymorth
Pan fo angen, byddwn ni’n eich helpu i gysylltu â gwasanaethau lleol a grwpiau cymunedol ac yn rhoi adnoddau ymarferol i’ch helpu chi i symud ymlaen.
Pwy sy’n gallu defnyddio’r gwasanaeth?
Mae’r gwasanaeth MOT Iechyd Meddwl ar gael i unrhyw un dros 18 oed sy’n byw yn ardal Conwy.
Does dim angen i chi fod yn dioddef, a does dim angen atgyfeiriad arnoch chi.
Mae’n arbennig o ddefnyddiol os yw’r canlynol yn wir amdanoch chi:
- Dydych chi “ddim yn teimlo fel chi eich hun”
- Dydych chi ddim yn siŵr ble i ddechrau gyda’ch iechyd meddwl
- Rydych chi eisiau cael cyfle i sgwrsio a myfyrio