Cefnogwch Ni
Ni ddylai neb wynebu problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun, a gall Mind Conwy gynnig cymorth diolch i’ch cyfraniadau hael a’ch ymdrechion codi arian gwych chi. Dyma ragor o wybodaeth am yr holl ffyrdd y gallwch ein cefnogi ni, o gyfrannu’n fisol, i adael rhodd yn eich Ewyllys, i gynnal eich gweithgaredd codi arian eich hun a llawer mwy!

Cyfrannu
Ni fyddai’n bosibl i ni wneud ein gwaith, a helpu a chefnogi pobl, heb gyfraniadau gan bobl fel chi! Gallwch ein cefnogi drwy wneud un cyfraniad, neu gyfrannu’n rheolaidd.
Codwch Arian ar ein cyfer
Does dim rhaid i chi redeg marathon i godi arian ar ein cyfer – gallech drefnu cwis, cynnal prynhawn o weithgareddau crefft, eillio eich pen, neu chwarae gêm ar-lein. Beth bynnag y byddwch yn ei wneud, bydd bob punt y byddwch yn ei chasglu yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r hyn y gallwn ni ei wneud!


Rhoi drwy’r Gyflogres
Gallwch gefnogi Mind Conwy drwy gynllun rhoi drwy’r gyflogres, dull di-dreth o gyfrannu o’ch cyflog heb orfod gwneud dim byd arall!
Siopa ar AmazonSmile
Trwy newid i AmazonSmile pan fyddwch yn prynu eitem gan gwmni Amazon ac enwebu Mind Conwy fel yr elusen o’ch dewis, bydd Amazon yn cyfrannu bob tro y byddwch yn prynu eitem gymwys!


Y Cyfryngau Cymdeithasol
Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut gallwch droi eich amser ar y cyfryngau cymdeithasol yn gyfraniadau i Mind Conwy – mae sawl ffordd y gallwch ein cefnogi ar y cyfryngau cymdeithasol.
Rhoddion Er Cof
Gallech godi arian neu gyflwyno rhodd er cof am rywun annwyl i chi.


Gadael Cymynrodd
Mae cofio am Mind Conwy yn darparu arian gwerthfawr a fydd yn ein helpu ni i barhau â’n gwasanaethau hanfodol.
Sut mae eich cyfraniadau yn helpu
Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut rydym yn defnyddio eich cyfraniadau a’r arian sy’n cael ei godi drwy wahanol weithgareddau.

“Gwnaeth i mi sylweddoli y gallaf helpu fy hun i gael gwared â meddyliau gwael drwy wneud yr ymdrech er budd fy iechyd meddwl”
– Defnyddiwr gwasanaeth Mind Conwy Mawrth 2021