Pencampwyr Iechyd Meddwl
Hoffech chi fod yn Bencampwr Iechyd Meddwl? Rydym yn cynnig hyfforddiant a chymorth i bencampwyr mewn ysgolion, colegau, mudiadau ieuenctid a grwpiau ieuenctid.
Yn dod yn fuan!
Rydym yn chwilio am bobl ifanc i wirfoddoli fel Pencampwyr Iechyd meddwl ar gyfer eu hysgol, coleg, mudiad ieuenctid neu grŵp ieuenctid.
Byddwch yn cymryd camau i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ymhlith eich cyfoedion, ac yn herio’r gwarthnod sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae pencampwyr yn canolbwyntio ar newid agweddau. Maent yn creu cyfleoedd i ddechrau sgwrs am iechyd meddwl, chwalu mythau, a’i gwneud yn haws i bobl ofyn am gymorth.
Rydym yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth lawn a bydd cyfleoedd i gyfarfod pencampwyr eraill yn rheolaidd.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw drwy ffonio 01492 879907 neu anfon e-bost info@conwymind.org.uk