Hwb Pobl Ifanc
Ni waeth beth yw eich problemau iechyd meddwl, mae rhywun ar gael i’ch helpu bob amser.

Cwnsela Pobl Ifanc
Os ydych yn 14 oed neu throsodd, gallwch gael 6 sesiwn cwnsela am ddim.
Monitro Gweithredol Pobl Ifanc
Cwrs 6 wythnos yn seiliedig ar CBT i helpu â straen, pryder gormodol, diffyg hwyliau.


Grwpiau Therapiwtig
Bydd grwpiau yn cael eu datblygu yn fuan, ar ôl codi cyfyngiadau Covid.
Sesiynau Codi Ymwybyddiaeth am Iechyd Meddwl
Gallwn gynnig sesiynau codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ar gyfer ysgolion a cholegau, mudiadau ieuenctid a grwpiau ieuenctid.


Pencampwyr Iechyd Meddwl
Hoffech chi fod yn Bencampwr Iechyd Meddwl? Rydym yn cynnig hyfforddiant a chymorth i bencampwyr mewn ysgolion, colegau, mudiadau ieuenctid a grwpiau ieuenctid.
“Gwnaeth i mi sylweddoli y gallaf helpu fy hun i gael gwared â meddyliau gwael drwy wneud yr ymdrech er budd fy iechyd meddwl”
– Defnyddiwr gwasanaeth Mind Conwy Mawrth 2021