Therapi Ymddygiad Gwybyddol Cyfrifiadurol (CCBT)
Rydym yn cynnig Therapi Ymddygiad Gwybyddol Cyfrifiadurol (CCBT) – cwrs hunan-gymorth dan arweiniad.
Beth yw CCBT?
Mae CCBT yn fyr am Therapi Ymddygiad Gwybyddol Cyfrifiadurol (CBT) sef CBT sy’n cael ei gyflwyno ar-lein fel rhaglen hunan-gymorth dan arweiniad. Mae CBT yn edrych ar sut mae ein meddyliau, emosiynau, teimladau corfforol ac ymddygiad oll yn gysylltiedig er mwyn eich helpu i ddeall eich sefyllfa bresennol yn well ac i ddatblygu sgiliau i newid hyn.
Sut mae’n gweithio?
Dros gyfnod o 12 wythnos byddwch yn gweithio drwy naw o e-lyfrynnau hunan-gymorth o dan arweiniad un o’n hymarferwyr cyfeillgar. Bob pythefnos byddwch yn derbyn galwad ffôn i weld sut mae pethau’n mynd ac i sgwrsio am yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Byddwch yn gweithio gyda’ch gilydd i osod nodau a byddwch yn cwblhau tasgau yn y llyfrynnau rhwng pob sesiwn.
Mae’r testunau dan sylw yn cynnwys:
• Deall gorbryder
• Newid ein hunain
• Ymlacio
• Meddyliau anodd
• Teimladau anodd
• Datrys problemau
• Cadw’n iach
A yw CBT Cyfrifiadurol yn addas i mi?
Os ydych chi’n 18 oed neu throsodd, yn byw yn Sir Conwy ac yn dioddef o orbryder, yn isel eich ysbryd neu o dan straen, yna gallai CCBT fod yn iawn i chi. Bydd angen i chi fod yn barod i osod nodau, cwblhau tasgau a gweithio’n annibynnol gan ryngweithio llai nag y byddech fel arfer mewn grwpiau neu sesiynau cwnsela.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni heddiw drwy ffonio 01492 879907 neu anfon e-bost info@conwymind.org.uk