Monitro Gweithredol
Rhaglen gymorth hunan-arweiniol 6 wythnos i wella iechyd meddwl a lles.
Beth yw Monitro Gweithredol?
Mae Monitro Gweithredol yn rhaglen 6 wythnos am ddim a’i nod yw eich helpu i ddeall eich sefyllfa bresennol yn well er mwyn i chi allu rheoli eich meddyliau a’ch teimladau drwy eich grymuso i ddatblygu strategaethau ymdopi a rheoli eich sefyllfa yn well.
Sut mae’n gweithio?
Byddwch yn derbyn cymorth yn ystod y cwrs gan un o’n hymarferwyr cyfeillgar. Bydd y sesiwn cyntaf yn gyfle i siarad am eich anghenion i weld a yw Monitro Gweithredol yn addas i chi, gan benderfynu ar un o’r llwybrau canlynol.
- Gorbryder
- Iselder
- Hunan-barch
- Straen
- Teimlo’n unig
- Rheoli dicter
- Galar a cholled
Bob wythnos bydd eich Ymarferydd Monitro Gweithredol yn cysylltu â chi ac yn rhoi cymorth ac arweiniad i chi. Bydd yn trafod eich cynnydd a sut mae pethau’n mynd ac yn anfon gwybodaeth a llyfrau gwaith atoch, yn y post neu drwy e-bost, fel bod gennych yr holl adnoddau a chynghorion sydd eu hangen arnoch.
A yw Monitro Gweithredol yn addas i mi?
Os ydych chi’n 18 oed neu throsodd, yn byw yn Sir Conwy ac rydych wedi dechrau dioddef o orbryder, iselder, yn isel eich ysbryd neu rydych yn mynd drwy gyfnod anodd, yna gallai Monitro Gweithredol fod yn addas i chi.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni heddiw drwy ffonio 01492 879907 neu anfon e-bost ActiveMonitoring@conwymind.org.uk
For more information from Mind Cymru click here.