Hwb Therapïau Siarad
Ni waeth beth yw eich problemau iechyd meddwl, mae rhywun yna i’ch helpu bob amser.

Cwnsela Conwy
Mae ein gwasanaeth cwnsela ar gael i bawb sy’n 14 oed a throsodd. Rydym yn cynnig 6 wythnos o sesiynau cwnsela.
Parabl
Mae Mind Conwy yn cynnig y gwasanaeth cwnsela hwn fel rhan o gontract gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.


Monitro Gweithredol
Rhaglen 6 wythnos o gymorth hunan-arweiniol i wella iechyd meddwl a lles.
Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT)
Rydym yn cynnig Therapi Ymddygiad Gwybyddol Cyfrifiadurol (CCBT) – cwrs hunan-gymorth ar-lein.


Grwpiau Therapiwtig
Rydym yn datblygu pob math o grwpiau, wedi’u hwyluso gan gwnselydd.
“Gwnaeth i mi sylweddoli y gallaf helpu fy hun i gael gwared â meddyliau gwael drwy wneud yr ymdrech er budd fy iechyd meddwl”
– Defnyddiwr gwasanaeth Mind Conwy Mawrth 2021