Fy Nghenhedlaeth
Rhaglen wyth wythnos ar gyfer pobl 50 oed a throsodd.
Beth yw Fy Nghenhedlaeth?
Mae Fy Nghenhedlaeth yn gwrs wyth wythnos am ddim ar gyfer unrhyw un dros 50 oed sy’n awyddus i wella ei les, datblygu sgiliau ymdopi a chysylltu ag eraill.
Yn ystod y cwrs byddwch yn ymdrin â phynciau fel:
- Rheoli straen
- Herio meddyliau annefnyddiol
- Deall emosiynau
- Galar a cholled
- Datrys problemau
- Ymlacio
Mae pob sesiwn yn para am ddwy awr ac yn cyfuno trafodaethau a chymorth ymarferol yn ogystal â’r cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau blasu ar gyfer gweithgareddau yn y gymuned leol er mwyn i chi adeiladu rhyngweithiau cymorth a helpu i gadw’n iach yn feddyliol.
A yw Fy Nghenhedlaeth yn addas i mi?
Os ydych chi’n 50 oed neu throsodd, yn byw yn Sir Conwy ac rydych chi wedi cael profiad o orbryder, straen, rydych yn isel eich ysbryd neu’n teimlo’n ynysig ac eisiau cyfarfod pobl eraill sy’n wynebu problemau tebyg, yna gallai Fy Nghenhedlaeth fod yn addas i chi.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni heddiw drwy ffonio 01492 879907 neu anfon e-bost info@conwymind.org.uk