Ymwybyddiaeth am Iechyd Meddwl
Cyfle i wella eich dealltwriaeth am iechyd meddwl, ynghyd â sgiliau hanfodol a gwybodaeth allweddol am bob math o faterion iechyd meddwl.
Cynnwys y cwrs:
Mae’r cwrs hwn yn fan cychwyn gwych i unrhyw un sy’n awyddus i wella ei ddealltwriaeth am iechyd meddwl. Mae’n dysgu sgiliau hanfodol ac yn cynnig gwybodaeth bwysig am nifer o faterion iechyd meddwl gwahanol. Gellir ei ddefnyddio fel rhan o raglen ymsefydlu, neu unrhyw fenter iechyd meddwl, neu weithgaredd sy’n canolbwyntio ar wella iechyd meddwl yn y gweithle.
Bydd y cwrs yn:
- Defnyddio astudiaethau achos bywyd go iawn i ystyried materion iechyd meddwl gwahanol.
- Eich dysgu sut i adnabod materion iechyd meddwl ac ymateb iddynt.
- Yn tynnu sylw at arwyddion o warthnod a gwahaniaethu a sut mae hyn yn effeithio ar ein hiechyd meddwl.
- Eich helpu chi i ddysgu sgiliau hanfodol i ddelio â meddyliau hunanladdol.
- Eich cyfeirio at gymorth proffesiynol a chymorth anffurfiol sydd ei angen ar bobl.
- Rhoi’r hyder i chi siarad yn agored am iechyd meddwl a salwch meddwl.
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu:
- Diffinio’r materion iechyd meddwl mwyaf cyffredin.
- Adnabod yr arwyddion a’r symptomau.
- Nodi’r cymorth sydd ar gael.
Hyd y cwrs:
2 awr drwy Zoom neu wyneb yn wyneb gyda’r tiwtor
Costau’r cwrs:
£45 y pen
Gostyngiad ar gael ar gyfer grŵp o 10 – £400
Gostyngiad o 20% ar gyfer mudiadau/elusennau’r trydydd sector; ysgolion a cholegau; gweithwyr allweddol/gweithwyr y gwasanaethau brys.
To book a course:
To find out details of open courses you can attend individually or to book a course for a group of people, please contact:
01492 879907