Iechyd Meddwl a Sut i roi Cymorth i rywun arall
Awgrymiadau ymarferol ac adnoddau er mwyn rhoi cymorth i rywun ag anghenion iechyd meddwl.
Cynnwys y cwrs
Nod y cwrs Iechyd Meddwl a Sut i roi Cymorth i rywun arall yw eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth wybodus am iechyd meddwl, fel y gallwch gynnig y cymorth gorau posibl i weithwyr neu aelodau tîm. Rydym yn darparu arweiniad ac adnoddau ymarferol i feithrin eich hyder wrth roi cymorth i rywun arall a chyngor ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl a lles personol.
Bydd y cwrs hwn yn:
- Eich helpu chi i ddatblygu dealltwriaeth wybodus am iechyd meddwl
- Amlinellu profiadau o faterion iechyd meddwl gwahanol
- Rhoi arweiniad ac adnoddau ymarferol i roi cymorth i bobl
- Rhannu gwybodaeth am fathau gwahanol o gymorth
- Ystyried sut gallwn ni ofalu amdanom ni ein hunain wrth roi cymorth i eraill
- Meithrin hyder i ddechrau sgyrsiau cefnogol.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:
- Deall iechyd meddwl a phroblemau iechyd meddwl gwahanol
- Adnabod enghreifftiau o warthnod a gwahaniaethu a gwybod sut i fynd i’r afael â nhw
- Cael cyngor ymarferol ar sut i roi cymorth i bobl a sut i ofalu amdanoch chi eich hun
- Dod yn ymwybodol o’r mathau gwahanol o gymorth
- Dod o hyd i ffynonellau cymorth a gwybodaeth.
Hyd y cwrs
Hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn
Cost y cwrs
£50 am hanner diwrnod; £80 am ddiwrnod llawn
Gostyngiad ar gyfer grŵp o 10 – £450 hanner diwrnod; £720 diwrnod llawn
Gostyngiad o 20% ar gyfer mudiadau/elusennau’r trydydd sector; ysgolion a cholegau; gweithwyr allweddol/gweithwyr y gwasanaethau brys.
To book a course:
To find out details of open courses you can attend individually or to book a course for a group of people, please contact:
01492 879907