Cymorth Cwsmeriaid ac Iechyd Meddwl
Awgrymiadau ymarferol ac adnoddau a gwybodaeth am sut i gefnogi iechyd a lles eich cwsmeriaid.
Cynnwys y cwrs:
Mae’r cwrs hwn yn esbonio sut gall materion iechyd meddwl effeithio arnom ni a’n cwsmeriaid, a bydd yn eich helpu chi i adeiladu’r sgiliau i ofalu am eich iechyd meddwl yn y gwaith. Byddwn yn datblygu eich dealltwriaeth am y ffordd orau i ymateb i’ch cwsmeriaid a’u cefnogi, ac yn rhoi’r adnoddau i chi ddelio â sefyllfaoedd heriol.
Bydd y cwrs yn:
- Eich helpu chi i wybod pan mae cwsmer yn agored i niwed, a’ch cyfrifoldebau tuag ato.
- Datblygu sgiliau gwrando ac ymgysylltu, gan annog empathi yn y gweithle.
- Meithrin sgiliau i ofalu am eich iechyd meddwl a lles yn y gwaith wrth roi cymorth i gwsmeriaid
- Darparu ffynonellau cymorth a gwybodaeth
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:
- Deall iechyd meddwl a materion iechyd meddwl gwahanol, a sut gallant amrywio.
- Adnabod enghreifftiau o warthnod a gwahaniaethu, a gwybod sut i fynd i’r afael â nhw
- Cael cyngor ymarferol ar gyfer rhoi cymorth i eraill, a sut i ofalu amdanoch chi eich hun.
- Defnyddio dulliau defnyddiol i ddelio â sefyllfaoedd heriol
- Dod o hyd i ffynonellau cymorth a gwybodaeth a’u darparu i bobl eraill.
Hyd y cwrs
Hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn
Cost y cwrs
£50 am hanner diwrnod; £80 am ddiwrnod llawn
Gostyngiad ar gyfer grŵp o 10 – £450 hanner diwrnod; £720 diwrnod llawn
Gostyngiad o 20% ar gyfer mudiadau/elusennau’r trydydd sector; ysgolion a cholegau; gweithwyr allweddol/gweithwyr y gwasanaethau brys.
To book a course:
To find out details of open courses you can attend individually or to book a course for a group of people, please contact:
01492 879907