Y Cyfryngau Cymdeithasol
Mae llawer ohonom yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol bob dydd – beth am eu defnyddio i godi arian a chodi ymwybyddiaeth am Mind Conwy
Dilynwch Ni
Heddiw, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn llawer mwy na ffordd o gadw mewn cysylltiad â ffrindiau ac aelodau’r teulu — maent yn agor y drws i bron iawn pob brand, busnes ac achos y gallwch feddwl amdanynt.
Mae ein cefnogi ni ar y cyfryngau cymdeithasol yn bwysig er mwyn helpu mwy o bobl i weld ein neges, ein helpu i ddileu’r gwarthnod sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl, ac o bosibl cyfrannu at ein hymdrechion. Drwy gynnig ymatebion, sylwadau a rhannu postiadau byddwch yn ein helpu ni i ledaenu’r neges ymhellach!
Mae Mind Conwy yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol canlynol. Dilynwch ni!
Codi Arian ar Ben-blwydd
…neu ben-blwydd priodas … neu briodasau … unrhyw achlysur o’ch dewis!
Os ydych chi ar Facebook, mae’n hawdd iawn mynd ati i godi arian ar achlysur eich pen-blwydd, neu unrhyw achlysur arall, neu unrhyw bryd rydych eisiau codi rhywfaint o arian.
Cliciwch ar [dolen Codi Arian unigryw ar Facebook], ewch ati i greu eich tudalen a’i rannu â’ch rhwydwaith! Mae gofyn i ffrindiau a theulu am gyfraniadau i achos sy’n agos at eich calon yn hytrach nag anrhegion yn ffordd bersonol wych o helpu elusen. Hefyd, nid oes unrhyw ffioedd yn gysylltiedig â chyfraniadau a dderbynnir drwy Facebook, felly mae pob ceiniog yn cyfrif!