Sut mae eich cyfraniadau yn helpu
Pam ddylech chi gyfrannu at Mind Conwy?
Mae Mind Conwy yn elusen leol, annibynnol wedi’i chofrestru â’r Comisiwn Elusennau. Er ein bod yn gysylltiedig â chymdeithas genedlaethol Mind, rydym yn gyfrifol am ein hincwm ein hun, ein trefniadau codi arian, darpariaeth gwasanaeth, llywodraethiant a thimau staff a gwirfoddolwyr. Nid ydym yn derbyn cymorth ariannol gan Mind.
Rydym yn dibynnu ar ein cymuned anhygoel i godi arian hanfodol ar eich cyfer sy’n ein helpu i barhau i wneud ein gwaith – mewn gwirionedd, ni fyddem yn gallu gwneud hyn heb eich cymorth chi!
Dyma rai enghreifftiau o sut gallai eich rhoddion chi ein helpu:
Gallai £5 helpu 4 o bobl i dderbyn llyfrau gwaith Monitro Gweithredol yn y post.
Gallai £10 alluogi gwirfoddolwr i fynd allan i roi cymorth i rywun ar eich cynllun cyfeillio am ddiwrnod.
Gallai £20 ein helpu i fynd allan i’r gymuned, fel bod rhywun yn gallu derbyn gwybodaeth, hyfforddiant neu sesiwn cwnsela yn agos i’w gartref
Gallai £25 helpu unigolyn ifanc i fynd i’r sesiwn cwnsela cyntaf.
Gallai £50 ein helpu ni i redeg sesiwn grŵp cymorth iechyd meddwl therapiwtig ar gyfer pobl ifanc
Gallai £100 helpu unigolyn ifanc i gwblhau’r rhaglen monitro gweithredol
Gallai £150 helpu unigolyn ifanc i gwblhau 6 wythnos o gwnsela.
Gallai £300 gynnal cwrs 10 wythnos Mamau sy’n Bwysig i helpu grwp o rieni wella eu hiechyd meddwl
Gallai £1,500 helpu Mind Conwy i gynnig y dewis llawn o wasanaethau cymorth am ddiwrnod cyfan.
Beth yw’r ffyrdd eraill o gyfrannu?
Siec – gwnewch eich sieciau yn daladwy i Mind Conwy a’u hanfon i’r cyfeiriad: Rhoddion, Mind Conwy, Uned 5325, Llawr Cyntaf, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, LL22 8LJ
Trosglwyddiad Banc – A fyddech cystal â chysylltu â ni a gallwn roi’r manylion sydd eu hangen arnoch i drefnu taliad BACS
01492 879907