Daylio

Gwasanaeth What’sApp Un i Un

 

Beth yw Daylio?

Gwasanaeth newydd sy’n rhoi cymorth drwy ap dros gyfnod o 12 wythnos yw Daylio, ac mae’n eich galluogi i gadw dyddiadur preifat heb orfod teipio’r un llinell. Gallwch ddewis eich hwyliau ac ychwanegu gweithgareddau, gwneud nodiadau neu gadw dyddiadur. Bydd Daylio yn eich helpu i ddeall eich arferion yn well, cadw golwg ar eich gweithgareddau a gosod nodau i chi eich hun er mwyn gwella eich llesiant a theimlo’n well ynoch chi eich hun.

Sut mae’n gweithio?

Os hoffech chi ddefnyddio’r gwasanaeth, bydd angen ffôn clyfar Android neu Apple arnoch i osod Daylio. Byddwn hefyd yn defnyddio system negeseua WhatsApp i gyfathrebu â chi tra byddwch chi’n defnyddio Daylio.

I ddechrau arni:

  1. Bydd angen i chi gwblhau asesiad gyda ni dros y ffôn. Cysylltwch â ni a byddwn yn trefnu i wneud hyn cyn gynted ag y bo modd.
  2. Bydd angen i chi fynd i Google Play neu Apple App Store a gosod Daylio ar eich ffôn.
  3. Byddwn yn cysylltu â chi ar WhatsApp i ddweud helo ac i’ch cefnogi chi wrth i chi fynd yn eich blaen tra byddwch chi’n defnyddio’r ap.
  4. Os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch, gallwn eich helpu i gael gafael ar wasanaethau eraill sydd ar gael yn Mind Conwy neu mewn mannau eraill.

    Ar gyfer pwy mae hyn?

    Gall Daylio helpu os byddwch chi’n ei chael hi’n anodd cyrraedd sesiynau wyneb yn wyneb rheolaidd, neu os yw’n well gennych chi gyfathrebu â ni ar ffôn clyfar neu gyfrifiadur.

    Os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn, yn byw yn Sir Conwy ac yn teimlo’n bryderus neu’n profi hwyliau isel neu straen, yna gallai Daylio fod yn addas i chi. Bydd angen i chi fod yn gyfforddus yn defnyddio technoleg ac apiau ac yn chwilio am hunangymorth dan arweiniad gyda chymorth lefel isel.

    Cysylltwch â ni

    Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni heddiw drwy ffonio 01492 879907 neu anfon e-bost atom yn info@conwymind.org.uk

    Skip to content