Mae hi wedi bod yn flwyddyn hynod o brysur a heriol ond gyda thîm o staff a gwirfoddolwyr ymroddgar, mae Mind Conwy
wedi ymateb i’r her. Roedd yn flwyddyn o dwf a newid i’r sefydliad. Gwnaethom gynyddu nifer ein staff, ehangu ein dewis o wasanaethau i roi cymorth i’r nifer cynyddol o bobl sy’n dymuno cael cymorth, ac addasu i’r her o gyflenwi gwasanaethau yn ddigidol. Gwnaethom ganolbwyntio ar greu cysylltiadau â sefydliadau a chymunedau eraill er mwyn ein helpu i
gynnig cymorth gwell i bobl.
Nid yw Covid wedi dod i ben ac o ganlyniad i’r pandemig mae angen ein cymorth a chefnogaeth ar nifer cynyddol o bobl felly byddwn yn parhau i addasu a newid i ateb y galw hwnnw.
Cliciwch yma am y Adroddiad Effaith 2020-21:
Recent Comments